Cyfieithu
Rwy’n Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sy’n sicrhau fy mod yn cynnig gwasanaeth cyfieithu o’r safon uchaf. Mae gen i brofiad helaeth o gyfieithu testun o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg i amrywiaeth o gleientiaid rheolaidd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys tri Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Translation
I’m a Full Member of the Association of Welsh Translators and Interpreters, which ensures that I offer a translation service of the highest quality. I have a wealth of experience of translating text from English to Welsh and from Welsh to English for a variety of regular clients in the public, private and third sectors, including three Local Authorities in Wales.v

Prawfddarllen
Rwy’n gwirio pob darn o gyfieithu a wnaf yn ofalus cyn dychwelyd y testun, a hynny fel rhan o’r pris cyfieithu. Ond os mai’r bwriad yw cyhoeddi’r testun ar bosteri, pamffledi a chylchgronau ac ati, neu ar y we, mae’n bwysig iawn y caiff y testun ei brawfddarllen wedi iddo gael ei gysodi neu’i ddylunio, a chynigaf y gwasanaeth hwn am bris rhesymol ychwanegol.
Proofreading
I check every piece of translation carefully before returning the text, and this is included in the cost of translation. But if you intend to publish the text on a poster or in a leaflet or magazine etc, or on a website, it is essential that the text is proofread after it has been type set or designed, and I offer this service at a reasonable extra price.

Ysgrifennu creadigol Cymraeg
Fel bardd cadeiriog a chyhoeddedig, rwy’ wedi mynd i’r afael â phrosiectau mawr a bach dros y degawd diwethaf. Mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi fy nghomisiynu i lunio englynion, cywyddau, monologau, geiriau caneuon ac ati. Cysylltwch â mi i drafod sut gallaf eich helpu chi.
Welsh creative writing
As a chaired and published poet, I have worked on large and small creative writing projects over the past decade. I’ve been commissioned by several individuals and organisations to write various Welsh poems such as englynion or cywyddau, as well as monologues and song lyrics. Contact me to discuss how I can help you.